Lleoliad:
Hybrid – Ystafelloedd Pwyllgora 1 a 2 a
Chynhadledd Fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 29 Medi 2022
Amser:
09.36 -
11.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13133
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Hefin David AS Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Sarah Murphy AS |
Tystion: |
Dorian Brunt, Llywodraeth Cymru Bill Cordingley, Llywodraeth Cymru Hannah Fernandez, Llywodraeth Cymru Claire Lawson, Llywodraeth Cymru Fiona McFarlane, Llywodraeth Cymru James Owen, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lara Date, Clerc Robert Donovan, Clerc Sarah Bartlett, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog cymorth y Pwyllgor Katy Orford, Ymchwilydd Katie Wyatt, Cynghorydd Cyfreithiol |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
1.3 Datganodd Samuel Kurtz AS ei fod yn gyfarwyddwr yr elusen Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, ac yn gadeirydd Clwb Fferwmwyr Ifanc Sir Benfro.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.2 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2.3 Llythyr gan Weinidog yr Economi
2.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd
2.5 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
2.6 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
2.7 Llythyr gan Weinidog yr Economi
2.8 Llythyr gan Gyswllt Amgylchedd Cymru
2.9 Llythyr gan Weinidog yr Economi
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Bil Amaethyddiaeth (Cymru) – Cytuno ar y dull craffu
4.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ystyried y Bil.
4.2 Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol:
- y cylch gorchwyl drafft ar gyfer ymgynghori;
- dull y Pwyllgor o graffu yng Nghyfnod 1
- yn amodol ar ychydig o ychwanegiadau, rhestr y rhanddeiliaid ar gyfer tystiolaeth ysgrifenedig;
- y tystion i’w gwahodd i roi tystiolaeth lafar; a
- chyfnod ymgynghori o chwe wythnos.
4.3 Byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Busnes ynghylch yr amserlen graffu arfaethedig.
5 Bil Amaethyddiaeth (Cymru) – Briff Technegol gan Lywodraeth Cymru
5.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio dechnegol ar y Bil gan swyddogion Llywodraeth Cymru.
6 Diweddariad ynghylch Gwaith Craffu Deddfwriaethol
5.1 Cafodd yr Aelodau gyflwyniad ar y broses ddeddfwriaethol.
7 Ymweliadau Rapporteur â Ffermydd: Adborth gan Aelodau
7.1 Adroddodd Vikki Howells AS a Luke Fletcher AS yn ôl ar yr ymweliadau fferm a ddigwyddodd ar 22 Medi.